Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

 

Rhaglen waith gychwynnol y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2016

Mae’r papur hwn yn nodi rhaglen waith gychwynnol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer tymor yr hydref 2016. Mae’n fwriad gan y Pwyllgor neilltuo amser yn gynnar yn nhymor yr hydref i drafod cynllunio strategol; bydd yn cyhoeddi blaenraglen waith fwy manwl bryd hynny.

Sesiwn graffu cyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog yn cael eu gwahodd i’r Pwyllgor ddechrau tymor yr hydref i amlinellu eu gweledigaeth a’u blaenoriaethau ar gyfer y 18 mis nesaf, ac er mwyn mynd ar drywydd unrhyw faterion etifeddiaeth. Gallai’r sesiwn hon efallai nodi meysydd i’r Pwyllgor graffu arnynt mewn mwy o fanylder.

GIG cynaliadwy ar gyfer y dyfodol - ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch gweithlu’r GIG

Nodwyd mai cynaliadwyedd y gweithlu yw prif her y GIG yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n fwriad gan y Pwyllgor wneud gwaith cynnar i gasglu barn cyrff proffesiynol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (gan gynnwys myfyrwyr a gweithwyr rheng flaen) ynghylch recriwtio a chadw staff a’r camau y mae angen eu cymryd yn eu tyb hwy i sicrhau’r gweithlu cywir. Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod y Pwyllgor yn ymgysylltu â’r bobl y mae’r gwaith hwn yn effeithio arnynt.

Mae’r Pwyllgor yn bwriadu defnyddio toriad yr haf i alw am farn rhanddeiliaid a barn y cyhoedd ynghylch gweithlu’r GIG. Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r ymatebion i lywio cylch gorchwyl ymchwiliad yn y dyfodol.

Pwysau gaeaf 2016/17

Gan adeiladu ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Pedwerydd Cynulliad, bydd gwaith byr a manwl yn ceisio sicrwydd yn gynnar yn nhymor yr hydref bod y GIG yn barod i ddelio â phwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf sydd i ddod. Bydd hwn yn ymchwiliad undydd ‘penodol’ ar barodrwydd am y gaeaf.  

 

Ad-drefnu gwasanaethau ysbytai

Yn y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliwyd ymgynghoriadau mawr ynghylch ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yng Nghymru. Mae rhai meysydd eisoes yn gweld newidiadau; er enghraifft, gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a gofal brys. Yn nhymor yr hydref, bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad undydd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y broses, gan gynnwys y gwersi sydd i’w dysgu ohoni.

Craffu ar y gyllideb

Bydd craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn rhan arferol o raglen waith y Pwyllgor. Trefnir sesiynau craffu gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol yn unol ag amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chyllideb arfaethedig.

Deddfwriaeth

Traddododd y Prif Weinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mehefin yn amlinellu Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn gyntaf y Pumed Cynulliad. Mae’r rhaglen yn cynnwys ymrwymiad i ailgyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd, heb y cyfyngiadau ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig.

Nid yw datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys amserlen benodol ar gyfer cyflwyno’r Biliau unigol. Yn amodol ar y Pwyllgor Busnes yn cytuno i gyfeirio Biliau penodol i’r Pwyllgor, bydd angen bod yn hyblyg wrth gynllunio’r flaenraglen waith er mwyn gallu ymateb i ofynion craffu deddfwriaethol.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Plismona a Throseddu’r DU

Bydd y Pwyllgor yn trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Plismona a Throseddu’r DU y mae ei ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar 22 Medi 2016.